CYSYLLTU DOSBARTHIADAU

Mae’r rhaglen Cysylltu Dosbarthiadau trwy Ddysgu Byd-eang – a ddarperir i chi gan y Cyngor Prydeinig mewn partneriaeth â’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu – yn darparu cefnogaeth i ysgolion yn rhyngwladol i ddysgu am y materion mawr sy’n siapio ein byd a chydweithio arnynt.

Mae Cysylltu Dosbarthiadau trwy Ddysgu Byd-eang yn gweithio gydag ysgolion ledled y byd i helpu pobl ifanc i ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r agweddau sydd eu hangen i ffynnu.
Gall cysylltiadau rhyngwladol ddod â dysgu yn fyw, gan helpu myfyrwyr i gymhwyso materion byd-eang i’w hamgylchedd lleol a defnyddio’u sgiliau i greu newid cadarnhaol.
BYDDWCH YN YMWYBODOL OS GWELWCH YN DDA, Y DYLID CWBLHAU’R CWRS HWN AR GYFRIFIADUR PERSONOL (PC) ER MWYN CAEL Y PROFIAD GORAU.
AMCANION

Bydd Llwybr Dysgu Byd-eang Sazani yn datblygu eich cymwyseddau a’ch hyder ymhellach, i ddod â dysgu byd-eang i’r ystafell ddosbarth yn unol â Chwricwlwm Cymru 2022 gan gynnwys:
– Y chwe maes dysgu a phrofiad.
– Y tri chyfrifoldeb trawsgwricwlaidd, sef llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol.
– Y pedwar diben.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y rhain ar wefan Llywodraeth Cymru.
O fewn y cwrs hwn, cewch eich cyflwyno i amrywiaeth o adnoddau a’ch cefnogi i greu cynlluniau gwersi sy’n ymgorffori’r sgiliau canlynol:
– Meddwl yn feirniadol a datrys problemau.
– Creadigrwydd ac arloesi.
– Effeithiolrwydd personol. – Gwell Cymhwysedd digidol